Cookie Notice: This site uses cookies to provide multi-lingual functionality. Browsing this website means that you agree for these cookies to be placed on your browser.

Sut i Gysylltu

Sut i Gysylltu

Fframwaith Seren Aur y CU ar gyfer Arferion Da wrth Gysylltu Cymunedau

Mae Fframwaith Seren Aur y CU wrth wraidd rhaglen gyfan y Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica. Profodd WCVA a BUILD y fframwaith rhwng 2007-2010, ac mae wedi’i seilio ar brofiad helaeth mudiadau cymunedol yng Nghymru ac Affrica a defnyddir y fframwaith:

    Fel ‘map ffordd’ i arwain mudiadau gwirfoddol drwy’r broses ddatblygu partneriaeth rhwng Cymru ac Affrica
    I feincnodi, monitro a gwerthuso cynnydd prosiectau a mudiadau sy’n cysylltu cymunedau
    I wahaniaethau rhwng lefelau cyllid sydd ar gael ar gyfer gwahanol fathau o weithgareddau
    I ganfod anghenion datblygu a chymorth grwpiau / prosiectau yn y ffordd fwyaf effeithiol
    Fel meini prawf asesu ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth (e.e. gan banel arbenigwyr annibynnol WACL sy’n asesu Gwobrau Seren Aur y CU.)

Mae gan y Fframwaith Seren Aur pedwar ‘cyfnod’ datblygu, gyda deg ‘cam gweithredu’ i bartneriaid yng Nghymru ac Affrica weithio drwyddynt. Mae pob cyswllt cymdeithas sifil yn wahanol, ac efallai fod ar rai eisiau tyfu at bwynt penodol a dim pellach er mwyn gweddu i’w pwrpas. Cliciwch ar yr adrannau yn y diagram rhyngweithiol hwn i gael mwy o fanylion ac arweiniad.

 

 

Mae cysylltiadau cymunedol yn gweithio tuag at alluogi newid mewn pum maes allweddol o ran datblygu cymunedol 

 

Health Youth Livelihoods Environment Equality
 

Cyfrannu at Nodau Datblygu'r CU ar gyfer y Mileniwm er mwyn lleihau tlodi

MDG 1: Poverty and Hunger MDG 2: Primary Education MDG 3: Gender Equality MDG 4: Child Mortality MDG 5: Maternal Health MDG 6: Combat Diseases MDG 7: Environmental Sustainability MDG 8: Global Partnership